POPAT Cymraeg
Rhaglen addysgiadol ffonolegol ydy POPAT. Mae’n dysgu sain yn gyntaf cyn y llythyren. Mae’n dysgu sillafu, atalnodi a gramadeg yn ogystal â hunan fonitro a rhoi ffocws i sgiliau gwrando.
Yn gyntaf mae POPAT yn cysylltu ffonemau gyda lluniau, yna mae’n defnyddio’r lluniau i roi modd i’r dysgwr adnabod a threfnu ffonemau mewn geiriau. Wedyn mae’n cysylltu llythrennau gyda’r ffonemau hynny. Y sain sy’n dod gyntaf yn POPAT.
Gwrando a Dewis.
Yn y rhan yma defnyddir cyfres o luniau-sain ar gardiau i gynrychioli ffonemau cytseiniol Cymraeg. Mae’r dysgwr yn defnyddio’r lluniau sain yma i adnabod y seiniau sy’n cael eu llefaru gan yr athro. Ni oes gofyn i’r dysgwr ynganu’r seiniau ar hyn o bryd.
Gofynion y rhaglen yw bod y dysgwr yn gwrando ar, ac yn medru dirnad, y sain ddechreuol ac wedyn y sain olaf mewn geiriau sy'n cynnwys un sain gytseiniol ac un llafariad. Unwaith iddo/I ddeall y cysyniad yma, bydd yn barod i fynd ymlaen i ddewis sain ar ddechrau ac ar ddiwedd geiriau cytsain-llafariad-cytsain, ac felly yn amlygu trefn a manylion ffonetig mewn geiriau llafar.
Mae’r wybodaeth yma yn bwysig ar gyfer darllen a sillafu. Yn gyflym iawn mae’r dysgwr yn dewis, yn trefnu ac wedyn yn darllen y lluniau sain fel geiriau sy’n arwain at Drawsnewid. Yma mae’r cardiau lluniau-sain yn troi’n cardiau llythrennau , ond fod y llun-sain yn dal yno fel ysgogiad i’r dysgwr.
Gwrando ac Ysgrifennu
Yn y rhan yma o’r rhaglen mae’r dysgwr yn ysgrifennu geiriau unigol sy’n ffonolegol reolaidd o arddywediad yr athro ac yn eu darllen yn ôl. Y dysgwr sy’n cywiro’r i waith ei hun nid yr athro.
Pan fydd y dysgwr yn medru ysgrifennu geiriau deusill gyda chwe sain mae geiriau amledd uchel yn cael eu cyflwyno o fewn brawddegau ynghŷd â eraill sy’n ffonolegol reolaidd.
Prif bwrpas Gwrando ac Ysgrifennu yw dysgu sut i sillafu casgliad o eiriau hanfodol afreolaidd. Mae’n rhaid cael sgiliau hunan-fonitro ar gyfer cynhyrchu darn o ysgrifennu darllenadwy.
Stribed sain llythrennau.
Trefnwyd y llythrennau ar y stribed fesul grŵp (1-5) er mwyn hwyluso’r dewis cywir. Gosodwyd y llythrennau gweledol tebyg ar wahân er yn ddigon agos er mwyn eu cymharu. Mae’r llafariad mewn grŵp ar wahân. Felly mae’r bwrdd nawr yn ymddangos fel stribed personol i bob plentyn.
Ysgrifennu
Rhan nesaf y rhaglen yw ysgrifennu brawddegau sy’n dilyn yn naturiol o’r geiriau. Dyma’r cyfle i weithio’n ddwys ar eiriau afreolaidd. I ddechrau mae’r dysgwr yn gweithio ar eiriau targed ee. " mynd", ac yna yn ysgrifennu'r geiriau targed yma o fewn cyd-destun brawddeg. Defnyddir y dull o Wrando, Cuddio, Ysgrifennu, Gwirio cyn symud ymlaen i arddywediad.
Gwrando, Didoli a Sillafu:
Yn rhan olaf POPAT sef Gwrando, Didoli a Sillafu gall y dysgwr archwilio a thrafod sut i sillafu seiniau penodol afreolaidd ee y sain i, u neu y a'r deuseiniaid llafariadol. Cânt y cyfle i sylwi ar y gwahanol ffyrdd y gellir sillafu’r seiniau hyn ac felly dod yn fwy ymwybodol o hanfodion yr iaith Gymraeg.
Crynodeb:
Un o gryfderau POPAT yw’r pwysigrwydd sy’n deillio drwy’r rhaglen o fagu hyder. Mae’r rhaglen yn adeiladol tu hwnt gan sicrhau fod y sylfaen dysgu yn gadarn cyn symud ymlaen. Mae POPAT yn debyg i wal addysgiadol. Y dysgwr sy’n rheoli amseriad y rhaglen ac nid y cwricwlwm ac felly mae’r athro yn medru sicrhau datblygiad pob unigolyn yn y grwp. Mae’r wal yn cael ei hadeiladu gyda phob darn yn ei le yn gadarn heb unrhyw dyllau oherwydd diffyg dealltwriaeth. Mae POPAT yn dysgu strategaethau darllen a sillafu yn gynnar iawn yn addysg y dysgwr. Mae’n datblygu sgiliau gwrando ac yn magu hyder ym mhob unigolyn, sail gadarn i unrhyw ddysgwr.
Pen y dudalen
|